#94 - Cyfres Rheoli Staff - Pennod 3: Pa ddeddfwriaeth sy'n effeithio arnoch chi fel cyflogwr, cyflogai neu weithiwr fferm?

Ear to the Ground / Clust i'r Ddaear - A podcast by Farming Connect

Categories:

Mae gan bob gweithiwr amaethyddol, garddwriaethol a choedwigaeth cyflogedig yng Nghymru, gan gynnwys gweithwyr a gyflogir gan feistri gangiau ac asiantaethau cyflogaeth, hawl i’r Isafswm Cyflog Amaethyddol. Bwriad y podlediad hwn yw helpu cyflogwyr gweithwyr amaethyddol i ddeall a chydymffurfio â’r gofynion Isafswm Cyflog Amaethyddol a thelerau ac amodau eraill sy’n berthnasol i weithwyr amaethyddol yng Nghymru ac i helpu gweithwyr i ddeall eu hawliau. Mae’r cyfraddau isafswm cyflog a lwfansau ac isafswm telerau ac amodau eraill y mae gan weithwyr amaethyddol, gan gynnwys y rhai sy’n gweithio yn y sectorau garddwriaeth a choedwigaeth, hawl iddynt yn ôl y gyfraith wedi’u nodi yng Ngorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru). Darperir y wybodaeth yn y rhifyn hwn fel arweiniad yn unig. Ni ddylid ei weld fel rhywbeth sy’n rhoi cyngor cyfreithiol ar yr Isafswm Cyflog Amaethyddol nac ar faterion cyfreithiol yn gyffredinol. 

Visit the podcast's native language site