#92 - Mewnwelediad i'r sefyllfa bresennol o ran ôl-troed carbon ffermydd bîff a defaid yng Nghymru

Ear to the Ground / Clust i'r Ddaear - A podcast by Farming Connect

Categories:

Mae Cennydd Jones yn cael cwmni Non Williams, Swyddog Arbenigol Carbon, Cyswllt Ffermio. Mae'r rhifyn hwn yn seiliedig ar ganfyddiadau archwiliadau ôl-troed carbon a gwblhawyd ar 185 o ffermydd bîff a defaid drwy Wasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio. Pwrpas yr astudiaeth fer hon oedd crynhoi canlyniadau’r archwiliadau hyn a gwblhawyd yn 2022 er mwyn echdynnu ffigyrau defnyddiol a fydd yn rhoi mewnwelediad i'r sefyllfa bresennol o ran ôl-troed carbon ffermydd bîff a defaid yng Nghymru. Mae astudiaeth Cyswllt Ffermio ar allyriadau nwyon tŷ gwydr (GHG) a gynhyrchir gan fentrau cig coch wedi dangos bod ffermydd Cymru yn is na’r meincnod ar gyfer ffermydd tebyg ar draws y DU. Gwrandewch am fwy o wybodaeth!   Dolenni defnyddiol-   Astudiaeth newydd ar Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr yn awgrymu canlyniadau calonogol i ffermydd bîff a defaid Cymru   Gwasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio Cysylltwch a ni   Digwyddiad- MEISTR AR ÔL TROED CARBON: BETH MAE HYN YN EI OLYGU?

Visit the podcast's native language site