#91 - Datgelu cyfle posibl arall yng nghefn gwlad Cymru

Ear to the Ground / Clust i'r Ddaear - A podcast by Farming Connect

Categories:

Bydd y bennod hon yn amlygu'r cyfleoedd posibl o fewn y diwydiant addurniadol masnachol. Fel rhan o’r sector garddwriaeth, yn ôl adroddiad diweddar gan Tyfu Cymru mae’n cyflogi 19,800 o bobl yma yng Nghymru ac yn cynhyrchu gwerth 40 miliwn o bunnoedd o gynhyrchiant am brisiau gât y fferm. Yn ymuno â Geraint Hughes mae Neville Stein MBE a Sarah Gould. Mae Neville wedi treulio 46 mlynedd yn y diwydiant garddwriaeth ac wedi bod yn gweithio fel ymgynghorydd i dyfwyr ledled y byd. Bydd y bennod hanner awr hon o hyd yn rhannu gweledigaeth o sut mae gan y sector hwn alw a chyfle enfawr a all chwarae rhan bwysig yn ffyniant y sector gwledig yng Nghymru.

Visit the podcast's native language site