#81 - Dyfodol moesegol y diwidiant llaeth

Ear to the Ground / Clust i'r Ddaear - A podcast by Farming Connect

Categories:

Mae Angharad Menna, cyflwynydd newydd arall ar y podlediad hwn yn cyfweld â’i gwestai cyntaf, Anna Bowen, Ysgolhaig Nuffield (a noddir gan Ymddiriedolaeth Elusennol Elizabeth Creake) sydd wedi teithio’r byd i astudio dyfodol moesegol ffermio llaeth. O fewn y bennod hon, byddwn yn clywed mewn manylder am eu phrofiadau mewn meysydd megis ymarferoldeb cyswllt buchod a lloi,  y defnydd gorau o semen rhyw, a dod o hyd i farchnad ar gyfer lloi eidion or fuches laeth. A allai’r diwydiant hefyd ddysgu oddi wrth rasio ceffylau a’i drwydded gymdeithasol? Os yw'r bennod hon yn eich cymell i ehangu'ch gorwelion mae'r ceisiadau ar gyfer Ysgoloriaethau Ffermio Nuffield 2024 AR AGOR! Y dyddiad cau yw 31 Gorffennaf 2023, ewch i'w gwefan am ragor o fanylion.

Visit the podcast's native language site