#15 – Llywio'ch busnes ffermio trwy’r Coronafeirws
Ear to the Ground / Clust i'r Ddaear - A podcast by Farming Connect

Categories:
Yn y bennod hon, mae Dr Nerys Llewelyn Jones o gwmni cyfreithwyr Agri Advisor yn rhoi trosolwg o'r rheolau newydd a'r cymorth ariannol sydd ar gael i helpu ffermwyr a busnesau sydd wedi arallgyfeirio i lywio eu ffordd trwy bandemig y Coronafeirws. Hefyd, mae Eirwen Williams o Menter a Busnes yn esbonio sut y mae Cyswllt Ffermio yn cefnogi’r diwydiant yn ddigidol yn ystod yr argyfwng presennol ac mae’n annog pawb i gadw mewn cysylltiad.