#113 - Atal Cloffni: Ffermwyr yn arwain y ffordd

Ear to the Ground / Clust i'r Ddaear - A podcast by Farming Connect

Categories:

A yw cloffni yn broblem ar eich fferm laeth? Er gwaethaf degawdau o ymdrech, mae cloffni yn parhau i fod yn hêr i ffermwyr llaeth. Mae’r podlediad hwn yn archwilio prosiect arloesol Partneriaeth Arloesedd Ewropeaidd (EIP) Cymru sy’n mynd i’r afael â’r mater hwn yn uniongyrchol. Ymunwch â ni wrth i ni edrych yn fanwl ar ymyriadau ymarferol, a darganfod sut mae ffermwyr llaeth Cymru yn cydweithio i wella cofnodion cloffni. Cyflwynir y podlediad hwn gan filfeddyg arweiniol y prosiect, Sara Pedersen o Farm Dynamics Ltd. Yn ymuno â hi mae tair fferm o ardal Casnewydd a Sir Fynwy, sydd wedi edrych ar ddod o hyd i strategaethau y gellir eu rhoi ar waith ar eu ffermydd i leihau achosion o gloffni yn eu buchesi.

Visit the podcast's native language site