#105 - Gwella Effeithlonrwydd ar fferm Glascoed, Y Drenewydd

Ear to the Ground / Clust i'r Ddaear - A podcast by Farming Connect

Categories:

Cyfle arall i glywed trafodaeth yn ystod y digwyddiad hwn ar y fferm Glascoed.  Bydd yr arbenigwraig defaid, Kate Phillips yn arwain y drafodaeth rhwng Alwyn a Dylan Nutting ac yn son am ganfyddiadau’r adolygiad a gynhaliwyd yn Glascoed i nodi meysydd cyfleoedd ar gyfer optimeiddio pellach a’u cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Alwyn a Dylan yn rhannu sut mae gwneud y defnydd gorau o borthiant ac ymgorffori gwndwn aml-rywogaeth yn eu rhaglen bori cylchdro wedi chwarae rhan mewn cyflawni gostyngiad nodedig mewn mewnbynnau allanol wrth gynnal lefelau cynhyrchu. Yn ymuno hefyd yn y sgwrs bydd Non Williams, Swyddog Arbenigol Carbon Cyswllt Ffermio fydd yn trafod y cysylltiad rhwng gwella effeithlonrwydd cyffredinol fferm a’i hôl troed carbon.    Rydym yn ymddiheurio nad yw ansawdd y sain yn ddelfrydol yn y rhifyn yma gan fod hi'n ddwrnod gwyntog iawn ar fferm Glascoed.

Visit the podcast's native language site