#102 - Cael y gorau o silwair adeg wyna - mae'r cynllunio ar arolygu yn dechrau nawr - Rhan 2

Ear to the Ground / Clust i'r Ddaear - A podcast by Farming Connect

Categories:

Croeso i Glust i'r Ddaear. Mae hon yn bennod dwy ran sy’n canolbwyntio ar y wybodaeth a ddosbarthwyd i ffermwyr mewn Digwyddiad Cyswllt Ffermio diweddar yn Dylysau Uchaf, Padog, Dyffryn Conwy. Os nad ydych wedi gwrando ar y bennod flaenorol eto, cofiwch wneud hynny gan ei fod yn cynnwys manylion cefndir y fenter ffermio yn Dylasau ynghyd â chanolbwyntio ar agwedd allweddol o’r prosiect yno sy'n canolbwyntio ar wella ansawdd silwair er mwyn sicrhau fod y fferm yn llai dibynnol ar ddwysfwyd a brynir i mewn. Yn ystod y digwyddiad fferm hwn, bu Joe Angell, o filfeddygon y Wern yn trafod ac yn rhoi awgrymiadau ar sut i fonitro’r famog ar ôl ŵyna a’r camau allweddol i’w cymryd wrth baratoi ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Visit the podcast's native language site